Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cyllideb ddrafft y Gymraeg o fewn y portffolio Addysg a Sgiliau.
Diben
1. Darparu papur tystiolaeth ar gyfer y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ynghylch cyllideb ddrafft y Gymraeg yn y portffolio Addysg a Sgiliau ar gyfer 2013-14.
2. Mae'n bwysig nodi bod y ffigurau a amlinellir yn y papur ar gyfer pethau a enwir mewn rhaglenni penodol i hybu'r Gymraeg. Nid oes modd rhoi ffigurau ar gyfer y costau cyffredinol o hybu'r Gymraeg, oherwydd mae dwyieithrwydd yn rhan annatod o weledigaeth Llywodraeth Cymru, ac mae darparu gwasanaethau'n ddwyieithog wedi'i brif ffrydio yn ei holl feysydd gwaith.
Yr amserlen
3. Cyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ar 2 Hydref 2012.
Cyllideb Ddrafft Addysg a Sgiliau ar gyfer 2013-14
4. Mae Cyllideb Ddrafft 2013-14 yn darparu cynllun dwy flynedd ar gyfer buddsoddi yn y ddarpariaeth addysg a sgiliau yng Nghymru. Yn Nhabl 1 ceir trosolwg o'r gyllideb sydd wedi'i chynllunio ar gyfer Addysg a Sgiliau sef y 'Prif Grŵp Gwariant' (MEG). Hefyd, mae modd gweld y newidiadau i'r gyllideb ddangosol ers cyhoeddi'r Gyllideb Ddangosol ddiwethaf ym mis Mehefin 2012 (a oedd yn ailddatgan y gyllideb Addysg a Sgiliau gan gymryd i ystyriaeth y newidiadau portffolio ers y Gyllideb Derfynol).
Tabl 1: Prif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau
|
2012-13 |
2013-14 |
2013-14 |
2013-14 |
2014-15 |
2014-15 |
2014-15 |
|
|
Cyllideb Atodol Mehefin 2012 |
Cynlluniau Dangosol y Gyllideb Derfynol |
Newidiadau |
Cynlluniau Newydd y Gyllideb Ddrafft |
Cynlluniau Dangosol y Gyllideb Derfynol |
Newidiadau |
Cynlluniau Newydd y Gyllideb Ddrafft |
|
|
|
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
Refeniw DEL |
1,676,529 |
1,694,824 |
-21,025 |
1,673,799 |
1,702,459 |
-20,825 |
1,681,634 |
|
Cyfalaf DEL |
178,293 |
143,834 |
33,300 |
177,134 |
143,834 |
10,000 |
153,834 |
|
Cyfanswm DEL |
1,854,822 |
1,838,658 |
12,275 |
1,850,933 |
1,846,293 |
-10,825 |
1,835,468 |
|
Gwariant a Reolir yn Flynyddol |
178,309 |
161,285 |
15,584 |
176,869 |
153,310 |
29,839 |
183,149 |
|
Addysg a Sgiliau |
2,033,131 |
1,999,943 |
27,859 |
2,027,802 |
1,999,603 |
19,014 |
2,018,617 |
|
5. Mewn papur tystiolaeth tebyg, a luniwyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 17 Hydref a'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar 10 Hydref, mae gwybodaeth fanwl am weddill y cyllidebau Addysg a Sgiliau sy'n berthnasol iddynt.
Is-adran y Gymraeg
6. Sefydlwyd Is-adran y Gymraeg ym mis Ionawr 2012, drwy ddwyn ynghyd:
· Uned y Gymraeg mewn Addysg - sy'n gyfrifol am y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg;
· Uned y Gymraeg - sy'n gyfrifol am Strategaeth y Gymraeg ac am weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac
· Uned y Gymraeg yn y Gymuned - sy'n cynnwys staff a drosglwyddodd i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2012, ar ôl diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
7. Yn y tabl isod ceir y dyraniadau arfaethedig ar gyfer cyllideb Is-adran y Gymraeg. Caiff y dyraniadau ar gyfer 2013/14 a 2014/15 eu rhannu rhwng Uned y Gymraeg mewn Addysg ac Uned y Gymraeg (sy'n rheoli cyllideb a weinyddir ar y cyd gan Uned y Gymraeg ac Uned y Gymraeg yn y Gymuned), fel yr amlinellir isod:
Tabl 2: Dyraniadau'r Gyllideb Refeniw
|
2012-13 |
2013-14 |
2013-14 |
2013-14 |
2014-15 |
2014-15 |
2014-15 |
|
|
Cyllideb Atodol Mehefin 2012 |
Cynlluniau Dangosol y Gyllideb Derfynol |
Newidiadau |
Cynlluniau Newydd y Gyllideb Ddrafft |
Cynlluniau Dangosol y Gyllideb Derfynol |
Newidiadau |
Cynlluniau Newydd y Gyllideb Ddrafft |
|
|
|
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
Y Gymraeg mewn Addysg |
16,412 |
12,377 |
3,835 |
16,212 |
12,377 |
3,835 |
16,212 |
|
Y Gymraeg |
8,564 |
14,078 |
-5,214 |
8,864 |
14,078 |
-5,214 |
8,864 |
|
Cyfanswm y Gymraeg |
24,976 |
26,455 |
-1,379 |
25,076 |
26,455 |
-1,379 |
25,076 |
|
Uned yr Iaith Gymraeg
8. Trosglwyddodd y cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o grantiau a phrosiectau Bwrdd yr Iaith Gymraeg i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2012, ynghyd â'r cyfrifoldeb am ddatblygu cymunedol. Mae hyn yn cynnwys grantiau i sefydliadau Cymraeg fel yr Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru a'r Mentrau Iaith.
9. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth am statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru, Terminoleg a Chyfieithu, a gweithredu system newydd Safonau'r Gymraeg.
10. Diben cyllideb Uned y Gymraeg yw cynorthwyo i weithredu Strategaeth y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw 2012-17, sy'n adlewyrchu cynnwys Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac sy'n ategu'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (gweler isod).
11. Mae'r strategaeth newydd yn disodli'r cynllun gweithredu cendlaethol ar gyfer Cymru ddwyieithog, Iaith Pawb.
12. Yn y strategaeth ddrafft ceir chwe nod strategol, sef:
13. Bydd cysylltiad amlwg rhwng yr holl wariant â chwe nod strategol y Strategaeth.
14. Ym mis Mawrth 2012, cytunwyd ar ddosraniad y cyllid rhwng Uned y Gymraeg a Chomisiynydd y Gymraeg, am y flwyddyn cyntaf ar ôl y newidiadau a achoswyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. O'r £13.9 miliwn a ddosbarthwyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg, mae'r Comisiynydd yn cael £4.1 miliwn yn 2012/13, ac mae £9.9 miliwn yn cael ei roi i Uned y Gymraeg.
15. O'r £9.9 miliwn, mae £4.026 miliwn wedi cael ei drosglwyddo i linell gwariant Uned y Gymraeg mewn Addysg (hen Uned Datblygu'r Gymraeg) ac mae £1.35 miliwn wedi ei drosglwyddo i'r Costau Rhedeg Adrannol. Caiff y £4.5 miliwn sy'n weddill ei ddefnyddio gan Uned y Gymraeg i ariannu grantiau a phrosiectau.
16. Ar gyfer 2013/14 bydd y gyllideb yn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed yn 2012/13, gan roi cyllideb ddangosol i Uned y Gymraeg o £8.864 miliwn. Amlinellir y trefniadau ar gyfer ystyried cyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn Rhan 5 o Atodlen 1 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y Comisiynydd yn llunio amcangyfrif blynyddol o incwm a gwariant, ac yn ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o leiaf pum mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol; bydd Gweinidogion Cymru yn archwilio'r amcangyfrif ac yn ei osod, gydag addasiadau os oes rhai, ger bron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Caiff gweddill y grant i'r Comisiynydd ei ddefnyddio gan Uned y Gymraeg i ariannu grantiau a phrosiectau ac i sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg.
Tabl 3 - Y prif feysydd a ariennir gan Wariant Uned y Gymraeg yn 2012-13 |
|
Grant Comisiynydd y Gymraeg |
£4.1 miliwn |
Grantiau i Hybu'r Gymraeg |
£3.6 miliwn |
Prosiectau Cymraeg |
£0.864 miliwn |
|
|
|
£8.564 miliwn |
Uned y Gymraeg mewn Addysg
17. Mae parhau i gyflenwi'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ymrwymiad allweddol yn Rhaglen Lywodraethu 2011-16. Mae'r Strategaeth yn amlinellu agenda hirdymor ar gyfer parhau i ddatblygu addysg a hyfforddiant Cymraeg a chyfrwng Cymraeg, ac felly i'w gweithredu'n llwyddiannus bydd angen buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Strategaeth ar waith ers mis Ebrill 2010. Ym mis Gorffennaf 2012 y cyhoeddwyd yr adroddiad cynnydd blynyddol diweddaraf.
18. Isod, ceir rhai o'r lwyddiannau allweddol y ddwy flynedd gyntaf:
19. Mae'r gyllideb gyfredol ar gyfer gweithredu'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn £16.412 miliwn ym mhob blwyddyn ariannol (Llinell Wariant yn y Gyllideb y Gymraeg mewn Addysg 5164). O 2012-13, mae hyn yn cynnwys £4.026 miliwn a drosglwyddwyd o Uned y Gymraeg ar gyfer grantiau a arferai gael eu hariannu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sef Mudiad Meithrin a'r athrawon bro.
20. Yn ogystal â chyllideb benodol y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, mae'r cyllid ar gyfer addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg hefyd yn cael ei brif ffrydio i bolisïau a rhaglenni a reolir gan dimau eraill AdAS.
21. Mae'r cyllidebau dangosol yn dangos y bydd y gyllideb ar gyfer gweithredu'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn cael ei diogelu ar y lefelau cyfredol. O ganlyniad, bydd modd gwneud amrywiaeth o waith datblygu i gefnogi'r camau gweithredu sy'n flaenoriaeth ac a enwir yn y Strategaeth. Hefyd, cafodd £200,000 ei drosglwyddo o Uned y Gymraeg mewn Addysg i Is-adran y Gymraeg ar ôl sicrhau arbedion yn y gwariant a gynlluniwyd.
22. Yn y tabl isod, dangosir y prif feysydd gwaith a ariennir o gyllideb y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn 2012-13:
Tabl 4 - Y prif feysydd a ariennir gan Wariant Uned y Gymraeg yn 2012-13 |
|
Cynllunio a prif ffrydio addysg cyfrwng Cymraeg a datblygu'r ddarpariaeth (gan gynnwys addysg 14-19, colegau addysg bellach) |
£2.405 miliwn |
Grant y Gymraeg mewn Addysg a chymorth i awdurdodau lleol |
£5.630 miliwn |
Cyflenwi'r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg drwy Cymraeg i Oedolion a Chymraeg ail iaith. |
£2.604 miliwn |
Hyfforddi ymarferwyr (gan gynnwys y Cynllun Sabothol Cyfrwng Cymraeg) |
£2.673 miliwn |
Comisiynu adnoddau newydd ar gyfer addysgu a dysgu |
£2.900 miliwn |
Ymchwil, gwerthuso a marchnata |
£0.200 miliwn |
Cyfanswm |
£16.412 miliwn |
23. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol ar y gweill ar gyfer 2013-14, er bod cyfran y gyllideb sydd i'w defnyddio i gefnogi pob un o'r meysydd allweddol uchod yn amrywio yn ôl y camau gweithredu sydd wedi'u blaenoriaethu i'w hystyried yn ystod 2013-14.
Gwariant ar y Gymraeg o fewn y rhaglenni eraill ym Mhrif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau.
24. Yn Nhabl 4 ceir gwybodaeth am ddosraniad y cyllid ar brosiectau Cymraeg o fewn y rhaglenni eraill ym Mhrif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau. Amcangyfrifon dangosol yw'r ffigurau ar hyn o bryd, gan nad yw'r cyllidebau ar gyfer 2013-14 heb eu dadgyfuno o dan lefel y Llinell Wariant yn y Gyllideb.
Tabl 4: Cyllid ar gyfer y Gymraeg ym meysydd eraill Prif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau.
Disgrifiad |
Amcangyfrif Dangosol £000 |
BEL Addysg a sgiliau |
Iaith Pawb |
2,000 |
Y Cyfnod Sylfaen |
Grant Cyngor Llyfrau Cymru |
337 |
Llythrennedd a rhifedd |
Atodiad Cymhelliant Cyfrwng Cymraeg |
280 |
Datblygu a Chefnogi Athrawon |
Cymwysterau Cyfrwng Cymraeg |
640 |
Cymwysterau (5160) |
Cymraeg i Oedolion |
10,576 |
Darpariaeth Addysg Bellach (4763) |
Ymgodiad Cyfrwng Cymraeg |
6,096 |
Darpariaeth Addysg Bellach (4763) |
Darpariaeth TGAU/UG/U2 |
1,483 |
Darpariaeth Addysg Bellach (4763) |
Hyfforddiant ar gyfer Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion |
98 |
Refeniw Addysg Uwch (4620) |
Premiwm Cyfrwng Cymraeg |
899 |
Refeniw Addysg Uwch (4620) |
Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon |
600 |
Refeniw Addysg Uwch (4620) |
Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg |
130 |
Prosiectau Er Mwyn Ein Dyfodol (4681) |
Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
4,049 |
Prosiectau Er Mwyn Ein Dyfodol (4681) |
Crynodeb
25. Cyflwynir y gyllideb ddrafft ar gyfer y Gymraeg o fewn portffolio Addysg a Sgiliau ar gyfer 2013 -14 i'r Pwyllgor i'w hystyried.